Anne Frank / Frank Anne / Roberts Lewis Eigra
Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
Ganed Anne yn Frankfurt am Main, Yr Almaen, yn 1929, ond oherwydd casineb cynyddol y Natsïaid tuag at Iddewon, penderfynodd Otto ac Edith Frank, rhieni Anne a’i chwaer Margot, ffoi i Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn 1933. Yna, ar 6 Gorffennaf 1942, wedi i’r Natsïaid oresgyn y wlad, cuddiodd y teulu mewn rhandy dirgel uwchben swyddfa Otto Frank yng nghanol y ddinas. Ychydig wythnosau yn gynt, ar ei phen-blwydd yn 13 mlwydd oed, derbyniodd Anne ddyddiadur fel anrheg a chychwynoddysgrifennu’i dyddiadur byd enwog.Trwy dudalennau’r gyfrol hon, a addaswyd i’r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu’r gobeithion a’r ofnau, y profiadau a’r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a’i theulu’n cuddio rhag y Natsïaid.