Librería Samer Atenea
Kálamo Books
Librería Elías (Asturias)
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(Argraffiad newydd o waith Ann Griffiths yn cynnwys ei hemynau, ei llythyrau, a gweithiau gan ei chydnabod)Bererin llesg gan rym y ’stormydd,Cwyd dy olwg, gwêl ’n awr,Yr Oen yn gweini’r swydd gyfryngol,Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr;Gwregys euraidd o ffyddlondeb,Wrth ei odrau clychau’n llawnO sŵn maddeuant i bechadurAr gyfri’r anfeidrol iawn.Er iddi farw yn 29 oed gan adael dim ond rhyw saith deg o benillion o farddoniaeth, mae Ann Griffiths (1776-1805) fardd crefyddol o bwys Ewropeaidd. Yn llais unigryw mewn emynyddiaeth Gymraeg, mae ei phenillion wedi’u nodweddu gan eu grym emosiynol ac am ddwyster eu cyfeiriadaeth ysgrythurol, sy’n tystio i feddwl chwim eu hawdures.Mae’r gyfrol hon yn ail-greu Gwaith Ann Griffiths (1905) O. M. Edwards, sef y fersiwn safonol cyntaf o emynau’r bardd. Mae’n cynnwys llythyrau Ann yn ogystal ag emynau Thomas Griffiths, gŵr Ann, a phenillion gan un o’u cydnabod, John Davies. Gyda rhagymadrodd newydd gan Robert Rhys..