William John (W. J. Gruffydd) Gruffydd
Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(The collected poems of Welsh poet W. J. Gruffydd (1871-1954))'Fe ddaw eu tro’n ddiogel - ond pa waeth?Ni leddfir tinc y chwerthin melys rhydd;Ni ddelir adain maboed un yn gaethWrth gofio am drueni’r meirwon prudd,A’u dwylo’n groesion, yn eu gwely gro.'William John Gruffydd oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw’r byd Cymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn olygydd papur newydd Y Llenor am ddegawdau, a bu’n enwog hefyd am ei gystadleuaeth wybyddol a gwleidyddol gyda Saunders Lewis, a ddaeth i’w hanterth yn ystod isetholiad sedd Prifysgol Cymru yn 1943, a enillwyd gan Gruffydd.Fel bardd, fodd bynnag, daeth Gruffydd i’r amlwg yn gyntaf, a hynny’n llanc ugain oed pan gyhoeddwyd Telynegion, ei gydweithrediad gydag R. Silyn Roberts. Ystyrir ef o hyd yn un o feirdd mawr y dadeni mewn barddoniaeth Cymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac er bod detholiadau lawer wedi’u gwneud o’i waith, y gyfrol hon yw’r ymgais cyntaf i gasglu ynghyd holl weithiau barddonol cyhoeddedig y bardd.