Librería Samer Atenea
Kálamo Books
Librería Elías (Asturias)
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(New edition of the T. Rowland Hughes classic Y Cychwyn)''Bora clir, braf, ynte?' meddai hi wedi iddi groesi at y ffenestr.'Y? Clir? A’r hen darth ’na dros y pentra’ i gyd!'Edrychodd hi’n ddryslyd arno.'Welwch chi gapal Siloam, Nyrs?''Gwela’. Ond does ’na neb ar y ffordd eto. Rhy gynnar o lawar.''Nyrs?''Ia, Robat Ellis?''Wela’ i mo’r capal na’r ysgol na’r eglwys na dim.'Wedi dirywiad sydyn ac annisgwyl ei dad, rhaid i Owen Ellis dyfu’n gyflym. Er ei fod yn chwarelwr wrth ei waith, mae ei ddawn naturiol wedi’i fwriadu i rywbeth mwy. Ond a fydd ei dlodi a’i gyfrifoldebau’n profi’n drech na’i uchelgais?Fel mae’r teitl yn awgrymu, bwriad T. Rowland Hughes oedd y byddai Y Cychwyn yn rhan gyntaf ei waith mwyaf: trioleg yn dilyn Owen Ellis drwy ei fywyd cyfan o’i ieuenctid i’w henaint. Yn y diwedd profodd ei gyflwr dirywiol ei hun yn drech nag ef, ac Y Cychwyn fyddai ei nofel olaf; ond ynddi gwelir un o nofelwyr Cymraeg mwyaf ei oes ar anterth ei grefft.