Librería Samer Atenea
Kálamo Books
Librería Elías (Asturias)
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(New edition in Welsh of the short stories of Richard Hughes Williams, including previously unpublished stories)Amser blin y chwarelwr yw y gaeaf.Roedd Richard Hughes Williams (1878-1919) yn un o awduron rhyddiaith blaenllaw ei oes yn yr iaith Gymraeg. Gwnaeth ei gyfraniad mwyaf sylweddol fel awdur straeon byrion, ac yn y maes hwnnw ystyrir ef yn arloeswr a fu’n ddylanwad sylweddol ar awduron diweddarach. Bu’n byw mewn sawl lle gwahanol yn rhinwedd ei yrfa fel newyddiadurwr, ond roedd yn enedigol o bentref Rhosgadfan, a chysylltir ef yn annatod gyda bro chwarelyddol Gwynedd, sy’n gefndir i’w straeon mwyaf adnabyddus. Cyhoeddwyd casgliadau o’i straeon yn 1914 ac yn 1916; casglwyd y rhain ynghyd gyda rhai straeon mewn cyfrolau diweddarach ar ôl ei farwolaeth. Mae’r casgliad newydd hwn yn dwyn ynghyd yr holl straeon a gyhoeddwyd eisoes ynghyd â rhai newydd nad ymddangosodd ar ffurf cyfrol o’r blaen.Efe oedd y cyntaf i edrych ar [y Stori Fer] o ddifrif.-Kate RobertsNi fu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni. Ni allai fod.-E. Morgan Humphreys