Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(Welsh translation performed in 2004 and 2024 of Eve Ensler’s international phenomenon The Vagina Monologues)Pan ysgrifennwyd a llwyfannwyd The Vagina Monologues am y tro cyntaf yn 1996, fe’i croesawyd fel un o’r dramâu mwyaf beiddgar a thrawiadol am ddegawdau. Yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda nifer o ferched, mae’r gyfres hon o ymsonau - sydd yn eu tro’n ddoniol, yn flysig, yn frawychus, neu’n dorcalonnus - yn ddathliad o rywioldeb merched yn ogystal ag yn ergyd wleidyddol ffeministaidd yn erbyn trais.Cyfieithwyd y ddrama i’r Gymraeg gan Sharon Morgan a’i llwyfannu yn 2004, gan fynd ar daith o amgylch Cymru; ond dim ond nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf un. 'Theatr ar ei orau - sioe bwysig, digyfaddawd a doniol tu hwnt.' - Ani GlassAm bob llyfr a werthir, bydd cyfraniad o£1.00 yn cael ei wneud at Gymorth i Ferched Cymru (Rhif Elusen Cofrestredig 1140962).