Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(New edition of T. Rowland Hughes’s classic Welsh language novel O Law i Law)'Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma’r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F’ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai’r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau’r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.'Wedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu tŷ, drwy werthu eu heiddo ’o law i law’ i’w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae’n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a’i fagwraeth, ei berthynas gyda’i rieni a’i ewythr, a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni.Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu’r llyfr a’r nofelau a’i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i’w hawdur na phrofasai’r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw’r tawelaf a’r mwynaf o’i nofelau, a’r un sy’n dwyn y mwyaf o’i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.