Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
Yn ymestyn o’r Oesoedd I hyd y dwthwn hwn mae’r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o’r byd y daethpwyd i’w hadnabod fel Cymru. Dyma’r llyfr sy’n egluro pam ’er gwaethaf pawb a phopeth ’rydym yma o hyd’.Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru trafodir bryn gaerau cynhanesyddol olion Rhufeinig gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol y Diwygiad Protestannaidd datblygiad Anghydffurfiaeth y Chwyldro Diwydiannol twf yr ymdeimlad cenedlaethol streiciau’r glowyr a’r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn y mae’r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.