Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
W. Llewelyn WilliamsGwilym a Benni Bach'Odi lesu Grist ddim yn folon gneud beth i ni am iddo neud?' gofynnai Benni.'O odi, gwlei,' atebai Gwilym gan synfyfyrio.'Wel, pam odd e’n gellwn i ni lychu’n dillad?' meddai Benni. Ni ddaeth atebiad Gwilym ar unwaith. Ar ôl eiliad neu ddwy o betruster, 'Benni Bach?' meddai. 'Mi agores i’n llyged wrth weddïo.'Ar ôl bod i ffwrdd am nifer o yn astudio, mae meddyg ifanc yn dychwelyd adref i’w fro enedigol yn Nyffryn Tywi ac yn cwrdd am y tro cyntaf â’i ddau nai ifanc, Gwilym a Benni-Benni Bach, i ddefnyddio enw pawb amdano. Cawn bortread hoffus a llawn o’r ddau fachgen wrth i ni eu dilyn yn tyfu, chwarae, breuddwydio, mynd i’r ysgol, ymweld ag Abertawe: thrwyddynt hefyd cawn bortread o lencyndod yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn enwedig ei thafodiaith. Yn wleidydd, newyddiadurwr, cyfreithiwr a hanesydd amatur, William Llewelyn Williams hefyd oedd ymhlith y nofelwyr Cymraeg cyntaf o Dde Cymru. Ef oedd yr Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin o 1906 i 1918.