Jadwiga Graboś / Marta Listewnik
Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
Cyfrol o farddoniaeth gyda darluniau gwreiddiol mewn lliw.Tarddodd Cyswllt o angen siarad am bethau sy’n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy’n bwriadu datgelu’r emosiynau a’r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a’r grym mewnol sy’n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os dyn ni’n dofi ofn arwahanrwydd.Mae Jadwiga Graboś yn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol Cyswllt y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a’r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Skłodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o’r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi’n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae’n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.Mae Marta Listewnik yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedair nofel Gymraeg ym Mhwyleg ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i’r Gymraeg.