Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(Welsh Translation of Helle Helle’s Danish short story collection Biler og Dyr)Menyw ifanc yn lladd amser ym mhriodas dieithriaid wrth aros am y bws nesaf. Hiraeth am y gŵr a’r plant a gollodd yn llethu gwraig. Pwmpen y mae angen ei chyffeithio’n droi’n ormes ar wraig arall. Merch ifanc ar drothwy newid byd. Trobwyntiau bywyd, posibiliadau newydd. Y diwedd yn aml yn ddechreuad.Helle Helle yw un o brif lenorion cyfoes Denmarc. Mae ei gwaith yn darlunio digwyddiadau cyffredin bob-dydd o bersbectif benywaidd. Arddull gynnil, finimalaidd sy’n ei nodweddu. Ond mae’r tonnau ar wyneb y llyn yn bradychu cynnwrf yn y gwaelodion.Y casgliad hwn o un-ar-bymtheg o’i straeon byrion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2000, yw un o’r gweithiau cyntaf erioed i gael ei gyfieithu o’r Ddaneg i’r Gymraeg. Nid yw eto wedi’i gyfieithu i’r Saesneg. Mae’r cyfieithydd, Richard Crowe, yn siarad nifer o ieithoedd ac wedi gweithio fel cyfieithydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru; hwn, fodd bynnag, yw ei gyfieithiad cyntaf o ryddiaith greadigol.