Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
(New edition of the poems of Welsh-language poet Alun (John Blackwell))'Er dichon fod ei chalon wanYn delwi dan y dulid, Ni chwyna, i flino’i hannwyl rai,-Ei gwên a guddia’i gofid:Ni pheidia’i chân trwy ddunos faith,Nes gweled gobaith golauYn t’wynnu, megis llygad aur,Trwy bur amrantau’r bore.'Roedd Alun, a defnyddio enw barddol y brodor o’r Wyddgrug John Blackwell (1797-1840), yn un o feirdd Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad oes dim ond cymharol ychydig o’i waith wedi goroesi, ystyrir ef yn ddolen gyswllt bwysig yn natblygiad y traddodiad telynegol Cymraeg.Mae’r detholiad hwn o’i waith yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi o’i eiddo sy’n hysbys; gan gynnwys yr awdlau enillodd iddo sawl gwobr mewn Eisteddfodau taleithiol yr 1820au, nifer o englynion, ynghyd â’i gerddi yn y mesurau rhydd, sef y gweithiau daeth yn fwyaf adnabyddus amdanynt.