Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
'Henaint ni ddaw ei hunan;-daw ag och Gydag ef, a chwynfan,Ac anhunedd maith weithian,A huno maith yn y man.'Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o’r 'dadeni' a welwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.Er bod ei farddoniaeth yn llai adnabyddus na’i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o’i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae’n cynnwys ei delynegion enwog fel Cwyn y Gwynt ynghyd â’i englynion a’i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus a chynhyrchiol o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae’r rhain hefyd yn rhan bwysig o’r Caniadau, gan gynnwys telynegion Heinrich Heine a Phenillion Omar Khayyâm, enghraifft brin o gyfieithiad i’r Gymraeg o waith llenyddol o’r tu allan i Ewrop.