Paul Tillich / John Heywood Thomas
Librería Samer Atenea
Librería Aciertas (Toledo)
Kálamo Books
Librería Perelló (Valencia)
Librería Elías (Asturias)
Donde los libros
Librería Kolima (Madrid)
Librería Proteo (Málaga)
Roedd Paul Tillich (1886–1965) yn un o ddiwinyddion mwyafdylanwadol yr 20fed ganrif.Roedd yn un o’r cyntaf i feirniadu Hitler. Fe’i gorfodwyd i adael ei swydd yn y brifysgol gan y Llywodraeth Natsïaidd yn 1933, ac ymfudodd i America ble daeth yn ffigur diwylliannol cyhoeddus, gan ymddangos ar glawr cylchgrawn Time yn 1959.Gwaith Tillich oedd testun doethuriaeth Martin Luther King. Er gwaethaf dylanwad rhyngwladol Tillich, ychydig o ymwybyddiaeth sydd o’i waith ym Mhrydain. Cyfieithwyd y cyhoeddiad hwn o hunangofiant deallusol Tillich, Ar y Ffin, gan gydweithiwr i Tillich, yr athronydd John Heywood Thomas. Dyma’r cyntaf o weithiau Tillichi ymddangos yn y Gymraeg.