LibrerÃa Samer Atenea
Kálamo Books
LibrerÃa ElÃas (Asturias)
LibrerÃa Kolima (Madrid)
LibrerÃa Proteo (Málaga)
(New collection of the poetry of Welsh poet R. Silyn Roberts, including his 1902 Crown-winning ’Trystan ac Esyllt’)'Fe’m carodd fel y câr yr haul y ddaear:Bedyddiodd fi â gwres ei fynwes hawddgar;Fe’i cerais ef fel câr y lloer yr aigI’w yrru a’i guro’n greulon ar y graig.'Er ei fod yn ddylanwadol fel gwleidydd a diwygiwr cymdeithasol, roedd Robert Silyn Roberts (1871-1930) hefyd yn fardd medrus ac ar anterth ei boblogrwydd roedd yn un o feirdd enwocaf Cymru. Wedi astudio dan John Morris-Jones, roedd yn aelod blaenllaw o fudiad rhamantaidd y ’dadeni’ llenyddol mewn barddoniaeth Gymraeg dechreuodd ar droad yr Ugeinfed Ganrif. Serch a chariad yw prif destunau ei gerddi, gan gynnwys yr enwocaf o’i gerddi, y bryddest ’Trystan ac Esyllt’ enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol 1902.Mae’r casgliad newydd hwn o’i farddoniaeth yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi cyhoeddodd Silyn, gan gynnwys holl gerddi’r cyfrolau Telynegion a Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, yn ogystal â nifer o’r cerddi o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a rhai diweddarach.